Marwolaeth babi: Rhyddhau dau

Mae dyn 43 oed a dynes 24 oed gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio babi un mis oes yng Nghwmbrân wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Dywed yr heddlu fod eu hymchwiliad i farwolaeth Amelia Jones yn parhau.

Galwodd y gwasanaeth ambiwlans Heddlu Gwent i Ffordd Waun Hywel yn ardal Pontnewydd yng Nghwmbrân tua 10.35pm Tachwedd 17.

Roedden nhw'n poeni am gyflwr iechyd Amelia Jones.

Aed â hi i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Bu farw yno ar Dachwedd 19.

Fe wnaeth Ian Skillern, tad Amelia, ryddhau'r deyrnged yma i'w farch.

"Fe wnaeth Amelia Rose, fy merch brydferth, wnaeth huno ar ddydd Llun Tachwedd 19, ddod a llawenydd mawr yn yr amser byr yr oedd hi yma. Byddwn yn ei cholli'n fawr.

"Dymunaf i a fy nheulu gynorthwyo Heddlu Gwent mewn unrhyw fodd er mwyn deall sut i'r trasiedi ddigwydd. Rydym yn gofyn fel teulu am amser i alaru yn y cyfnod anodd hwn."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.