Holi dau ar amheuaeth o ddynladdiad wedi i fenyw farw yn Wrecsam

  • 22 Tachwedd 2012
Hightown
Image caption Cafodd car Mrs Dudley Smith ei roi ar dân y tu allan i'w chartref yn ardal Hightown o Wrecsam

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth menyw yn Wrecsam wedi i'w char gael ei roi ar dân wedi holi dau lanc lleol ar amheuaeth o ddynladdiad.

Bu farw Gillian Dudley Smith yn Ysbyty Maelor Wrecsam o ganlyniad i strôc.

Aeth yn sâl yn fuan wedi i'w char Ford Fiesta gael ei roi ar dân y tu allan i'w chartref yn ardal Hightown o'r dref ar Dachwedd 13.

Mae llanc gafodd ei arestio a'i rhyddhau ar fechnïaeth yr wythnos ddiwethaf wedi cael ei holi o'r newydd ynghyd â llanc arall yn ei arddegau ar amheuaeth o ddynladdiad.

Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu wrth i'r ymchwiliad i'r digwyddiad barhau.

Dywedodd y Prif Arolygydd Alex Goss o Heddlu'r Gogledd ei fod yn dal i apelio am wybodaeth.

"Mae angen i dystion gysylltu â ni o hyd," meddai.

"Mae rhoi car ar dân yn drosedd ddifrifol a pheryglus, ac rydym yn apelio ar y gymuned i weithio gyda ni."

Dylai unrhyw un all fod o gymorth i ymchwiliad yr heddlu ffonio 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.