Sara Ege yn dweud i'w gŵr ladd eu mab Yaseen Ali

Yaseen Ali Ege
Bu farw Yaseen Ali Ege ym mis Gorffennaf 2010

Yn Llys y Goron Caerdydd, mae mam sydd wedi'i chyhuddo o lofruddio ei mab saith oed wedi dweud mai ei gŵr oedd yn gyfrifol am ei guro i farwolaeth am iddo fethu dysgu'r Coran.

Cafodd corff Yaseen Ali Ege ei ddarganfod wedi tân yng nghartre'r teulu yn ardal Treganna, Caerdydd, yn 2010.

Mae Sara Ege yn gwadu ei lofruddio a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae ei gŵr, Yousef Ali Ege yn gwadu caniatáu'r farwolaeth drwy fethu ag amddiffyn ei fab.

Dywedodd Mrs Ege, 33 oed, bod Yaseen wedi cael ei ladd gan ei dad wrth iddo geisio ymyrryd mewn ffrae rhwng ei rieni.

Roedd hi'n crio yn y llys ddydd Mercher wrth ddisgrifio gweld gwaed yn llifo o geg Yaseen cyn iddo droi'n las.

'Ceisio fy helpu'

"Roeddwn i a Yousef yn dadlau yn yr ystafell chwarae ac fe wnaeth o fy mhwnio a fy nghicio i'r llawr," meddai.

"Roeddwn i'n sgrechian ac fe ddaeth Yaseen i'r ystafell ac fe wnaeth e geisio fy helpu drwy ddweud, 'paid â brifo Mam'.

"Cafodd Yaseen ei guro wrth iddo geisio fy helpu, cafodd ei gicio ddwywaith.

"Fe wnes i ddweud bod rhaid mynd ag ef i'r ysbyty, ond dywedodd Yousef, 'Na'.

"Fe rois i ef ar y llawr ac fe wnaeth o droi yn las ac roedd stwff gwyrdd yn dod o'i geg. Roedd o wedi marw."

Ychwanegodd bod hi wedi ei gorfodi gan ei gŵr i wneud cyfaddefiad ffug wrth gael ei holi gan yr heddlu gan dderbyn mai hi laddodd ei mab.

Mae hi'n gwadu'r cyhuddiad yn ei herbyn ac mae'r achos yn parhau.