Wyth o deithwyr yn ysbyty wedi gwrthdrawiad yn Abertawe

  • 21 Tachwedd 2012

Mae wyth o deithwyr bws yn yr ysbyty gyda mân anafiadau ar ôl gwrthdrawiad yng nghanol Abertawe.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw tua 1pm i Ffordd y Gorllewin.

Roedd cerbyd Mitsubishi mewn gwrthdrawiad â bws First Bus a chafodd y ffordd ei hagor tua 2.15pm.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.