Prifysgol Abertawe yn ceisio hybu gwyddoniaeth yn y Gymraeg

  • 22 Tachwedd 2012
Myfyriwr mewn labordy (cyffredinol)
Bwriad y fforwm yw cynnal cyfres o seminarau gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg ar gampws y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe wedi dweud eu bod yn ceisio cynyddu'r diddordeb ym maes gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Nod Brwdfrydedd Heintus a gynhelir yn Sefydliad Gwyddor Bywyd y brifysgol am 7pm nos Fercher oedd ceisio ennyn diddordeb myfyrwyr, disgyblion chweched dosbarth ac aelodau o'r cyhoedd.

Diolch i gyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol dyma'r digwyddiad cyntaf o'i fath a'r gobaith yw ceisio cynnal noson gyffelyb bob blwyddyn.

'Trafodaethau'

Yn ystod y noson roedd fforwm ymchwil cyfrwng Cymraeg y brifysgol yn cael ei lansio yn swyddogol.

Bwriad y fforwm yw cynnal cyfres o seminarau gwyddonol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyn y digwyddiad dywedodd Dr Angharad Davies, Uwchddarlithydd Microbioleg yng Ngholeg Meddygaeth y brifysgol, eu bod yn ddiolchgar i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

"Rwy'n mawr obeithio y bydd yn datblygu i fod yn achlysur rheolaidd yng nghalendr y Brifysgol.

"Buaswn yn annog unrhyw un â diddordeb yn y maes i fynychu er mwyn cael eu hysbrydoli gan y trafodaethau yn ogystal â'r ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe.''