Morgannwg: Capten undydd newydd

Marcus North
Mae Marcus North wedi chwarae 21 tro dros Awstralia

Mae'r chwaraewr prawf o Awstralia, Marcus North, wedi ei benodi fel capten gemau undydd Morgannwg ar gyfer y tymor nesaf.

Bydd North, 33 oed, yn arwain y Dreigiau yng nghystadlaethau Pro40 a T20 yn 2013.

Jim Allenby a Mark Wallace rannodd y swydd yn 2012.

Yn ddiweddar penderfynodd North roi'r gorau i fod yn gapten talaith Gorllewin Awstralia ar ôl chwe blynedd wrth y llyw.

Tymor aflwyddiannus

Mae'r batiwr llaw chwith sydd hefyd yn droellwr achlysurol wedi sgorio bron i 1,200 o rediadau mewn 21 prawf i Awstralia ond nid yw wedi chwarae dros ei wlad er mis Rhagfyr 2010.

Bydd Mark Wallace yn parhau i gapteinio'r tîm yn Ail Adran y Bencampwriaeth y flwyddyn nesaf.

Cafodd Morgannwg dymor aflwyddiannus yn 2012 gan orffen yn y chweched safle yn ail adran y bencampwriaeth ar ôl ennill dim ond tair o'u 16 gêm.

Dim ond tair gêm enillodd y Dreigiau ym mhencampwriaeth y Pro40.

Bu tywydd gwael yn gyfrifol am ganslo pump o'u deg gornest yn y gystadleuaeth 20 pelawd gan sicrhau na fyddai Morgannwg yn cymhwyso ar gyfer y rownd gogynderfynol.