Cwestiwn ac Ateb: Adroddiad Comisiwn Silk

Mae Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru o dan yr arweiniad Paul Silk wedi cyhoeddi adroddiad ar y modd dylai Cymru gael ei chyllido yn y dyfodol.

Dyma gyfres o gwestiynau ac atebion sy'n ceisio amlinellu beth mae hyn yn ei olygu.

C: Beth yw prif argymhellion y Comisiwn?

A: Mae Paul Silk a gweddill y Comisiwn, oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r pedair prif blaid yng Nghymru, wedi bod yn ystyried pa drethi dylid eu datganoli. Fe benderfynwyd y dylid datganoli treth tirlenwi, treth stamp, Toll Teithwyr Awyr ac ardoll agregau (toll o £2 am bob tunnell sy'n cael ei gloddio). Llywodraeth Cymru hefyd ddylai gael y cyfrifoldeb am ardrethi busnes.

Ond byddai San Steffan yn parhau i fod yn gyfrifol am Dreth ar Werth, treth gorfforaethol, Yswiriant Cenedlaethol a threth ar danwydd.

C: Beth am dreth incwm?

A: Hwn yw'r maes mwyaf dadleuol. Mae'r comisiwn yn argymell y dylai llywodraethau Cymru a San Steffan rannu cyfrifoldeb am dreth incwm sy'n cael ei gasglu yng Nghymru erbyn 2020. Mae 'na argymhelliad hefyd y dylai Llywodraeth Cymru gael yr hawl i godi neu ostwng lefel treth. Er enghraifft gyda'r lefel isaf o dreth 20 ceiniog yn y bunt - byddai'r Trysorlys yn gyfrifol am godi 10 ceiniog, a Llywodraeth Cymru y 10 ceiniog arall. Byddai gan weinidogion yng Nghymru'r hawl i gynyddu neu ostwng eu 10 ceiniog hwy.

Felly pe bai Llywodraeth Cymru yn codi 1 ceiniog yn fwy er mwyn codi arain ar gyfer gwasanaethau sydd wedi eu datganoli, byddai trethdealwyr yng Nghymru yn talu 21 ceiniog o'i gymharu â 20 ceiniog i drethdalwyr Lloegr. Yn yr un modd fell allai gweinidogion Cymru benderfynu gostwng lefel treth o 1 ceiniog, gan olygu bod trethdalwyr yng Nghymru yn talu 19 ceiniog. Ond byddai hynny wrth sgwrs yn golygu y byddai gan Llywodraeth Cymru lai o arian yn y coffrau. Un o'r prif argymhellion yw y byddai gan Lywodraeth Cymru'r hawl i amrywio pob band treth - heb fod unrhyw derfynau yn cael eu gosod.

C: A fyddai hyn yn newid radical o'r drefn bresennol lle mae'r meysydd sydd wedi eu datganoli yn cael eu hariannu gan gymhorthdal bloc oddi wrth y Trysorlys?

A: Byddai, ac mae'r Comisiwn yn derbyn hynny - a dyna pam eu bod yn cynnig trefn dros dro cyn bod refferendwm yn cael ei gynnal cyn diwedd 2020 ar y cwestiwn o rannu treth incwm rhwng llywodraethau Cymru a San Steffan. Byddai'r system dros dro yn golygu y byddai Cymru yn derbyn £2 biliwn yn llai o'r cymhorthdal bloc, ac yna yn derbyn £2 biliwn o arian treth incwm. Ond yn y drefn dros dro ni fyddai gan Lywodraeth Cymru'r hawl i godi neu ostwng lefel trethi.

C: Sut byddai yn hyn gweithio? A heb bwerau i amrywio trethi beth yw'r diben?

A: Pe bai cyflogau yn codi a bod lefel yr incwm sy'n cael ei godi o dreth incwm hefyd yn codi, yna byddai gan Weinidogion fwy o arian. Ond pe bai'r economi yn gwahanu a bod cyflogau yn gostwng ac felly hefyd lefel yr incwm sy'n cael ei godi mewn trethi - yna byddai llai o arian ar gael i wario ar wasanaethau cyhoeddus.

Y nod yw sicrhau y byddai Llywodraeth Cymru yn gweld manteision amlwg o weld yr economi yn tyfu. Ond mae yna hefyd risg. O ganlyniad i'r dirwasgiad diweddar, bu gostyngiad yng nghyfanswm treth incwm yn 2007-8, sef £5.1 biliwn, i £4.8 biliwn yn 2010-11.

C: Ond byddai'r cymhorthdal bloc yn parhau i fodoli?

A: Byddai, mae'r trethi mae Silk yn bwriadu eu datganoli yn golygu y byddai Llywodaeth Cymru yn gyfrifol am godi tua 25% o'r arian mae'n ei wario. Byddai'r gweddill 75% yn cael ei benderfynu gan fformiwla Barnett.

C:A fyddai'n golygu newid yng ngwleidyddiaeth Cymru?

A: Byddai. Ar hyn o bryd mae'r dadleuon rhwng y pleidiau wedi ei ganoli ar sut y byddant yn rhannu'r cymhorthdal grant. Pe bai plaid 'A' yn dweud eu bod am wario mwy ar iechyd, yna mae'n rhaid iddyn nhw ddweud lle byddan nhw'n torri nôl, er enghraifft ar addysg neu amaeth. Ond gyda phwerau i amrywio trethi, fe all y pleidiau addo cynyddu gwariant mewn meysydd penodol a bod gyda'r opsiwn o godi lefel trethi er mwyn talu am hynny. Fe allan nhw hefyd addo lleihau trethi er mwyn ceisio rhoi hwb i'r economi.

C: A fydd o'n digwydd?

A: Mae'r comisiwn wedi gosod amserlen lle maen nhw'n credu bod modd cyflwyno system o amrywio trethi erbyn 2020 - pe bai pobl Cymru yn cefnogi hyn mewn refferendwm. Cyn cael refferendwm o'r fath mae'n rhaid bod dwy ran o dair o aelodau'r Cynulliad yn cytuno a hefyd Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi.