Un o oroeswyr Trychineb Munich, Kenny Morgans, wedi marw

  • 19 Tachwedd 2012
Kenny Morgans
Cafodd Kenny Morgans ei ganfod yn anymwybodol yng ngweddillion yr awyren wedi trychineb Munich

Mae un o gyn-chwaraewyr Manchester United, y Cymro Kenny Morgans, wedi marw yn 73 oed.

Roedd yn un o oroeswyr trychineb Munich yn 1958.

Wedi ei eni yn Abertawe, gadawodd yr ysgol yn 1955 ac ymuno gydag United.

Dwy flynedd yn ddiweddarach fe wnaeth chwarae am y tro cyntaf i'r prif dîm yn erbyn Caerlŷr.

Cafwyd hyd iddo yn anymwybodol yng ngweddillion yr awyren ym Munich gan ddau newyddiadurwr bum awr wedi i'r chwilio ddod i ben.

Wedi iddo wella o'i anafiadau fe wnaeth parhau gyda'i yrfa pêl-droed.

Gadawodd Old Trafford yn 1961 ar ôl chwarae 23 gwaith i'r tîm cyntaf.

Dychwelodd i Gymru ac ymuno gydag Abertawe cyn gorffen ei yrfa yn chwarae i Gasnewydd.

Mewn datganiad dywedodd clwb Manchester United bod Mr Morgans wedi cael ei daro'n wael ddydd Sadwrn cyn marw yn yr ysbyty.