Caerwysg 23-13 Y Gweilch

Caerwysg a'r Gweilch
Roedd hi'n gêm gorfforol iawn yn Sandy Park

Caerwysg 23 Y Gweilch 13

Cafodd gobeithion y Gweilch yn y gêm Cwpan LV eu chwalu yn Sandy Park.

Ar ôl i Henry Slade sicrhau bod y tîm cartre' ar y blaen tarodd Morgan Allen yn ôl gyda chais. Trosodd Sam Davies cyn cicio cic gosb.

Ond roedd Caerwysg ar y blaen o 17-10 ar yr egwyl oherwydd ceisiadau Will Carrick-Smith a Myles Dorrian. Trosodd Slade.

Ciciodd Slade ddwy gic gosb arall yn yr ail hanner tra chiciodd Davies ail gic gosb i'r Cymry.

Roedd cyfle i'r Gweilch ennill pwynt bonws oherwydd cic gosb yn hwyr yn y gêm ond methodd Matthew Morgan.

Caerwysg: Myles Dorrian, Jack Nowell, Nic Sestaret, Sam Hill, Mark Foster, Henry Slade, Junior Poluleuligaga (capten); Luke Cowan-Dickie, Jack Yeandle, Hoani Tui, Damian Welch, Will Carrick-Smith, Justin Blanchet, Joel Conlon, Dave Ewers.

Eilyddion: Neil Clark, Ben Moon, Alex Brown, Aly Muldowney, Sam Simmonds, Rob Coote, Josh Tatupu, Ian Whitten.

Y Gweilch: Ross Jones, Tom Grabham, Ben John, Jonathan Spratt, Will Price, Sam Davies, Tom Habberfield; Marc Thomas, Matthew Dwyer, Owen Williams, Ian Gough, Sam Williams, Joe Bearman (capten), Arthur Ellis, Morgan Allen.

Eilyddion: Scott Otten, Ryan Bevington, Nicky Thomas, Lloyd Peers, James King, Rhys Webb, Matthew Morgan, Tom Isaacs.