Wrecsam 1-1 Gateshead

  • 17 Tachwedd 2012

Ergyd Ryan Donaldson o 30 llath yn yr ail hanner dorrodd galonnau cefnogwyr Wrecsam.

Doedd dim gobaith caneri gyda'r golgeidwad Andy Coughlin.

Roedd Wrecsam ar y blaen, Nick Rushton yn sgorio ei gôl gynta y tymor hwn wedi pas grefftus Danny Wright.

Yn yr ail hanner Wrecsam oedd y tîm gorau ond tarodd yr ymwelwyr yn ôl wedi 63 o funudau.

Casnewydd 1-3 Hyde

Cafodd Casnewydd siglad ac ildio ei safle ar frig y gyngres.

Rhwydodd Phil Jevons o'r smotyn wedi i Alan Julian droseddu ar ôl 29 o funudau.

Llwyddodd Christian Jolly ar ei ymddangosiad cynta' i godi gobeithion y Cymry 10 munud wedi'r egwyl.

Ond rhwydodd yr amddiffynwr Luke Ashworth o gic gornel ac ergyd Scott Spencer oedd yr hoelen ola' yn yr arch.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.