Caerdydd 1-0 Middlesbrough

  • 17 Tachwedd 2012
Matt Connolly
Image caption Peniodd Connolly wedi i Peter Whittingham groesi i'r postyn pella'

Mae Caerdydd wedi ennill am y nawfed tro gartre' wrth drechu Middlesbrough.

Y sgôr oedd 1-0 ac mae Caerdydd yn ail yn y bencampwriaeth.

Hwn oedd y tro cynta' i Middlesbrough golli mewn naw o gemau.

Peniodd Connolly wedi i Peter Whittingham groesi i'r postyn pella' ar ôl dim ond 19 o funudau.

Wedyn ceisiodd capten Middlesbrough, Grant Leadbetter, rwydo ond ni chyrhaeddodd ei darged.

Roedd hi'n gêm anodd ac roedd amddifynwyr a golgeidwad Caerdydd o dan bwysau am gyfnodau hir.

Ond fe allai'r tri phwynt fod yn allweddol i'w gobeithion nhw am ddyrchafiad.

Chware naw, ennill naw a'r record 100% yn parhau.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.