Damwain: Bachgen mewn cyflwr difrifol

  • 17 Tachwedd 2012

Mae bachgen 10 oed yn yr ysbyty ag anafiadau difrifol ar ôl i gar ei daro yng Nghaernarfon.

Dywedodd pobol leol taw ei enw yw Thomas John Roberts.

Roedd y ddamwain am 4.30pm brynhawn Gwener ar Ffordd Llanberis.

Aed â'r bachgen i Ysbyty Gwynedd, Bangor, cyn ei drosglwyddo i Ysbyty Alder Hey.

Cafodd yr A4086 ei chau am ychydig o oriau a dylai unrhyw un a welodd y ddamwain ffonio 101.