Damwain: Plentyn mewn cyflwr difrifol

Mae plentyn wedi ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol ar ôl bod mewn gwrthdrawiad â char yng Nghaernarfon.

Digwyddodd y ddamwain am 4.30pm ar Ffordd Llanberis.

Dywed yr heddlu eu bod yn creu fod y bachgen ifanc wedi rhedeg ar y ffordd a chael ei daro gan gar.

Yn ôl yr heddlu mae o mewn cyflwr difrifol iawn.

Mae'r ffordd yr A4086 ar gau, ac yn debygol o aros ar gau am rai oriau.

Dylai unrhyw un a welodd y ddamwain gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru