Colli: 'Dim modd esbonio'

  • 17 Tachwedd 2012
Ryan Jones
Image caption Ryan Jones: 'Fe allai hwn fod wedi bod yn un o'r diwrnodau gorau yn fy ngyrfa.'

Mae capten Cymru, Ryan Jones, wedi dweud pa mor anodd yw esbonio pam y collodd Cymru 19-26 i Samoa.

"Fe allai hwn fod wedi bod yn un o ddiwrnode gore fy ngyrfa.

"Ond hwn oedd un o'r rhai gwaetha'.

"A dweud y gwir, y ni oedd yr ail orau mewn sawl agwedd ar y gêm ... yn ara bach fe lithrodd y gêm o'n gafael ni ac erbyn y diwedd do'dd dim digon o fynd ynddon ni."

Hon oedd y bumed gêm aflwyddiannus olynol o dan ofal yr hyfforddwr Rob Howley.

"Roedd eu perfformiad nhw'n well," meddai'r hyfforddwr. "Dyna'r gwir.

"Mewn rygbi rhyngwladol mae disgyblaeth yn hollbwysog ac roedden ni'n siomedig."

'Poeni'n ormodol'

Dywedodd Ryan Jones: "Os yw'r canlyniade'n wael, y duedd yw poeni'n ormodol.

"Rhaid i ni addasu a chofio ein bod yn wynebu dau o dime gore'r byd yn fuan, Seland Newydd ac Awstralia."

Sgoriodd Samoa dri chais.

Unig gais Cymru oedd ar ôl rhyngipiad Ashley Beck a rhediad o 70 metr a chiciodd Leigh Halfpenny 14 o bwyntiau.

Cafodd Samoa ddechrau anhygoel wrth sgorio o fewn munud, cais rhyngwladol cyntaf y cefnwr F Autagavaia wedi bylchu'r wythwr Tuifua.

Roedd Cymru'n awyddus i daro'n ôl wedi iddyn nhw golli 26-12 yn erbyn Ariannin.

Ond doedd dim digon o dân.

CYMRU: L Halfpenny (Gleision); A Cuthbert (Gleision), A Beck (Gweilch), J Roberts (Gleision), G North (Scarlets); D Biggar (Gweilch), M Phillips (Bayonne); P James (Bath), R Hibbard (Gweilch), A Jarvis (Gweilch), B Davies (Gleision), I Evans (Gweilch), R Jones (Gweilch, capt), J Tipuric (Gweilch), T Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: K Owens (Scarlets), G Jenkins (Toulon), S Andrews (Gleision), L Charteris (Perpignan), S Warburton (Gleision), T Knoyle (Scarlets), R Priestland (Scarlets), S Williams (Scarlets).

SAMOA: F Autagavaia (Northland); P Perez (Eastern Province), G Pisi (Northampton), P Williams (Stade Francais), D Lemi (Worcester, captain); T Pisi (Suntory), K Fotuali'i (Gweilch); S Taulafo (Wasps), O Avei (Bordeaux-Begles), C Johnston (Toulouse), D Leo (Perpignan), T Paulo (North Harbour), O Treviranus (Gwyddelod Llundain), M Fa'asavalu (Harlequins), T Tuifua (Newcastle).

Eilyddion: T Paulo (Clermont Auvergne), V Afatia (Agen), J Johnston (Harlequins), F Lemalu (Mont de Marsan), T Fomai (Hawke's Bay), J Su'a (Tasman), J Leota (Sale), R Lilomaiava (Laulii).

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.