Etholiad heb danio'r dychymyg

  • 16 Tachwedd 2012
Pleidleisio yn ardal Heddlu Dyfed Powys
Image caption Doedd dim llawer wedi pleidleisio yn yr etholiad drwy Gymru a Lloegr

Cafodd etholiad ei gynnal ac mewn rhai mannau yng Nghymru ni thrafferthodd neb fwrw pleidlais.

Pan agorwyd y blychau pleidleisio, mewn rhai wardiau yng Nghasnewydd a Chaerffili mi oedden nhw'n gwbwl wag.

Wrth i'r cyfrif ddod i ben yng Nghymru mae wedi dod yn fwy amlwg fod nifer y rhai bleidleisiodd yn echrydus o isel.

Dyma flas a braslun o'r patrwm amrywiol yng Nghymru.

Yn ardal Heddlu'r Gogledd roedd nifer sylweddol o bapurau pleidleisio yn Sir y Fflint wedi cael ei difetha gyda 13.32% o'r rhai gyda'r hawl i bleidleisio yn trafferthu gwneud hynny.

Ar Ynys Môn roedd 17.85% wedi pleidleisio a 16.78% yn Sir Ddinbych.

17.1%

Yn nalgylch Heddlu De Cymru roedd 11.9% wedi bwrw pleidlais ac ym Mro Morgannwg y cyfanswm oedd 19.62%.

Yn ardal Heddlu Dyfed Powys y manylion oedd Sir Benfro 19.6%, Sir Gaerfyrddin 17.4% gyda'r cyfartaledd ar draws y dalgylch mor isel â 17.1%.

Fe fydd y comisiynwyr yn disodli'r awdurdodau heddlu ond ddim yn gyfrifol am y materion o ddydd i ddydd.

Ond nhw fydd yn gosod y blaenoriaethau ar gyfer y prif gwnstabl.

Image copyright Dyfed-Powys Police Authority
Image caption Christopher Salmon oedd y cyntaf i'w ethol yng Nghymru

Y cwestiwn amlwg yw pam bod cyn lleied wedi pleidleisio?

Pleidlais o 23% yw'r ffigwr isaf mewn etholiad ym Mhrydain a hynny yn Etholiadau Senedd Ewrop yn 1999.

Un o'r prif resymau am y diffyg brwdfrydedd ym marn y sylwebwyr oedd na allai'r etholwyr uniaethu gyda sefyliad pell a diymadferth o safbwynt problemau dyddiol.

Holl bwrpas creu swyddi comisiynwyr oedd meithrin gwell cysylltiad ac ymdeimlad o atebolrwydd rhwng yr heddlu a'r cyhoedd.

Dyna oedd neges gyson y llywodraeth.

Roedd disgwyl mwy o bleidlesio yn yr etholiadau oherwydd bod cyfle i ymgeiswyr drafod pynciau bara menyn lleol.

Ond mae problemau cyfraith a threfn yng Nghaergybi, dyweder, yn dra gwahanol i broblemau cyfatebol yng Nghaerdydd neu yn yr ardaloedd gwledig.

Felly mae angen atebion a blaenoriaethau gwahanol.

Bai

Wrth i'r ymgyrch gychwyn, roedd y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadau yn darogan y byddai 18.5% o'r etholwyr yn debygol o fwrw pleidlais.

Ond wrth i'r canlyniadau ddechrau cyrraedd, barn y mudiad oedd mai'r llywodraeth ganol ddylai gael y bai am y diffyg cefnogaeth.

Roedd angen i ymgeiswyr gael ernes o £1,000 - yn wahanol i etholiadau arferol doedd 'na ddim gwasanaeth post am ddim ar gael i rannu taflenni etholiad.

Image caption Bydd y comisiynydd yn disodli gwaith yr awdurdod

Roedd y diffyg brwdfrydedd yn amlwg.

Yn ôl pob tebyg, dim ond 12% o'r rhai oedd gan yr hawl i fwrw pleidlais yn Wrecsam wnaeth drafferthu.

Mewn rhai wardiau yng Nghaerffili doedd dim un bleidlais wedi cael ei bwrw ac ym marn yr Aelod Seneddol lleol, Wayne David, roedd "cyfran uchel o bapurau pleidleisio wedi cael eu difetha yn fwriadol".

Cyhuddiad Stephen Brookes, Cyfarwyddwr Cymreig y Comisiwn Etholiadol, oedd bod y llywodraeth wedi cymryd yr etholwyr yn ganiataol.

"Mae yna sawl camgymeriad wedi digwydd wrth baratoi ar gyfer yr etholiad," meddai.

'Gor-ymyrraeth'

"Ychydig iawn o bobl sy'n gwrthwynebu cael yr heddlu yn fwy atebol a dyna oedd i fod i ddigwydd yn yr etholiad.

"Mae'r llywodraeth wedi anwybyddu sawl cyngor gan y comisiwn.

"Ac mae cynllun oedd i fod yn un lleol wedi cael ei ddifetha gan or-ymyrraeth o'r canol."

Er gwaethaf y bleidlais mewn rhai mannau, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, y byddai "mandad gan y comisiynwyr i weithredu llais y bobl beth bynnag oedd nifer y pleidleiswyr o'u plaid".

Cafwyd ar ddeall fod y Comisiwn Etholiadol yn bwriadu cynnal ymchwiliad i'r rhesymau am y diffyg brwdfrydedd a'u bod o'r farn nad oedd y cyhoedd wedi cael y wybodaeth angenrheidiol.

Pregeth gyson gwleidyddion o bob plaid ac ym mhob etholiad yw gwerth yr hyn maen nhw yn ei alw'n "ddemocratiaeth gynhwysol".

Ond neges graidd ymateb yr etholwyr y tro yma yw nad pawb yn dewis cael ei gynnwys.