Yr heddlu eisiau 'tawelu meddyliau' wedi llofruddiaeth

  • 16 Tachwedd 2012
Stryd Plasse
Mae'r heddlu yn awyddus i dawelu meddyliau aelodau'r gymuned yn Y Bala, yn enwedig pobl o ddwyrain Ewrop

Mae'r heddlu wedi cynyddu eu presenoldeb yn Y Bala wedi llofruddiaeth dyn yn y dre' ddydd Sadwrn.

cafodd Julius Hecko, 23 oed o Slofacia, ei gyhuddo o ladd dyn 42 oed, Branislav Gula, hefyd o Slofacia.

Dywedodd yr heddlu fod pedwar gafodd eu harestio wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Yn ôl yr Arolygydd Mark Armstrong, mae cyfarfodydd wedi cael eu trefnu gyda grwpiau lleol i drafod unrhyw bryderon.

Ychwanegodd fod yna angen i dawelu meddyliau a chyfathrebu gyda'r holl gymuned, yn enwedig trigolion o ddwyrain Ewrop.

Dywedodd y byddai "presenoldeb plismyn yn fwy amlwg" a bod hyn yn ychwanegol i sawl ymgynghoriad gyda chynghorwyr lleol ac aelodau eraill y gymuned leol "i sicrhau ein bod yn gwrando ar anghenion a phryderon pawb".

"Trwy wrando ac ateb y pryderon hyn, yn ogystal â chynyddu presenoldeb yr heddlu, rydym yn gobeithio gallu tawelu meddyliau'r gymuned gyfan," meddai.

Yn y cyfamser, mae'r heddlu wedi apelio eto am wybodaeth ynglŷn â'r llofruddiaeth.

"Hoffwn apelio at unrhyw un yn y gymuned oedd yn dyst i'r hyn arweiniodd at y digwyddiad ddydd Sadwrn, Tachwedd 10, i ffonio'r heddlu ar 101," meddai'r Arolygydd Armstrong.

Gallai pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.