Y Post Brenhinol yn agor canolfan newydd dros y Nadolig

  • 16 Tachwedd 2012
Canolfan sortio'r Post Brenhinol Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r cyfnod cyn y Nadolig yn draddodiadol yn brysur iawn i'r Post Brenhinol

Gyda mwy a mwy o bobl yn siopa ar-lein, mae'r Post Brenhinol wedi agor canolfan ddidoli parseli ger Port Talbot dros gyfnod y Nadolig.

Mae'n cael ei hagor ddydd Gwener ac mae'n un o wyth canolfan mae'r cwmni yn eu hagor ar draws y DU.

Ac mae disgwyl i'r ganolfan ddelio â dros 289,000 o barseli ar y dyddiau prysuraf.

Fis diwetha' cyhoeddodd Amazon eu bod yn recriwtio dros 1,000 o staff dros-dro yn eu canolfan ddosbarthu ger Abertawe.

Mae canolfan newydd y Post Brenhinol yn cael ei hagor ar Stad Ddiwydiannol Baglan.

Dywedodd y cwmni y byddai'r canolfannau ychwanegol yn "delio â'r cynnydd mawr yn nifer y parseli wrth i nifer cynyddol o bobl siopa ar-lein."

Yn ôl Mark Higson, rheolwr gyfarwyddwr gyda'r cwmni: "Mae'r Post Brenhinol wedi buddsoddi mewn wyth canolfan ddidoli er mwyn i ni allu bod yn fwy hyblyg ar adeg mor bwysig i'n cwsmeriaid."

Mae'r canolfannau eraill yng Nghaeredin, Glasgow, Bolton, Tamworth, Peterborough, Swindon a Greenford yn Llundain.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.