Traffordd yr M4 wedi ail agor wedi i lori droi drosodd ger cyffrordd 47 Penllergaer

  • 15 Tachwedd 2012
Tagfeydd ar yr M4 wedi damwain Tachwedd 15 2012
Y tagfeydd wedi i lori droi drosodd ger cyffrordd 47 Penllergaer

Mae'r M4 wedi ail agor ar ôl i lori droi drosodd ger Abertawe yn gynharach ddydd Iau.

Fe wnaeth bwyd parod ollwng o'r lori ger cyffordd 47 Penllergaer cyn 9.30am.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle ar y lôn ddwyreiniol ger y ffordd ymadael.

Mae'r traffig yn yr ardal yn lleihau.

Doedd 'na ddim anafiadau.

Roedd 'na adroddiadau bod tagfeydd yn mynd yn ôl hyd at gyffordd 48 am Lanelli a'r Hendy yn gynharach.