M4 ar gau wedi i lori droi drosodd ger cyffrordd 47 Penllergaer

Tagfeydd ar yr M4 wedi damwain Tachwedd 15 2012
Image caption Y tagfeydd wedi i lori droi drosodd ger cyffrordd 47 Penllergaer

Mae'r M4 wedi cau ar ôl i lori droi drosodd ger Abertawe.

Mae bwyd parod wedi gollwng o'r lori ger cyffordd 47 Penllergaer.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle ar y lon ddwyreiniol ger y ffordd ymadael.

Does 'na ddim adroddiadau am anafiadau ac mae traffig yn cael ei ddargyfeirio.

Mae disgwyl i'r ffordd barhau ar gau tra bod y bwyd a'r lori yn cael ei symud.

Mae 'na adroddiadau bod tagfeydd yn mynd yn ôl hyd at gyffordd 48 am Lanelli a'r Hendy.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.