Achos disgyblu yn erbyn Serbia ar ôl trafferthion efo cefnogwyr

Cefnogwyr Cymru yn Novi Sad Image copyright Getty Images
Image caption Cefnogwyr Cymru yn Novi Sad wrth i Gymru golli o 6-1

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Serbia yn wynebu achos disgyblu ar ôl trafferthion ymhlith cefnogwyr yn ystod gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Cymru.

Mae FIFA wedi cadarnhau wrth BBC Cymru eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiadau yn Novi Sad ar Fedi 11 pan gollodd Cymru o 6-1.

Yn yr un grŵp mae Croatia yn wynebu achos ar ôl eu gêm yn erbyn Macedonia ym mis Hydref.

Fe fydd y ddau achos yn cael eu clywed mewn gwrandawiad disgyblu ar Dachwedd 20.

Doedd llefarydd ar ran y corff sy'n llywodraethu pêl-droed y byd ddim am ymhelaethu ar union natur y trafferthion yn y gêm erbyn Cymru.

Mae'r sancsiynau ar gymdeithasau pêl-droed yn amrywio o ddirwyon i wahardd cefnogwyr mewn gemau a gwaharddiad o Gystadleuaeth Cwpan y Byd 2014.

Golygfeydd hyll

Ar hyn o bryd, Gwlad Belg sydd ar frig Grŵp A ar wahaniaeth goliau i Croatia ac mae Serbia yn drydydd.

Mae Cymru yn bumed ar ôl un fuddugoliaeth yn unig, yn erbyn Yr Alban, o bedair gêm.

Eisoes mae Cymdeithas Bêl-Droed Serbia yn wynebu achos disgyblu ar ôl honiadau am ganeuon hiliol wedi eu targedu at chwaraewr Lloegr, Danny Rose, yn ystod gêm dan 21 oed.

Roedd golygfeydd hyll ar ddiwedd y gêm gyda chwaraewyr a swyddogion yn gwthio ei gilydd ar ôl buddugoliaeth Lloegr o 1-0.

Mae'r ddwy gymdeithas bêl-droed wedi eu cyhuddo am ymddygiad y chwaraewyr ac mae 'na gyhuddiad yn erbyn Serbia am y canu hiliol ymhlith cefnogwyr.

Bydd UEFA, corff llywodraethu pêl-droed Ewrop, yn delio gyda'r mater ar Dachwedd 22.

Mae Serbia yn chwarae mewn gêm gyfeillgar nos Fercher yn erbyn Chile yn Santiago ac mae'r Alban yn wynebu Luxembourg a Gwlad Belg wedi teithio i Romania.

Penderfynodd rheolwyr Cymru i beidio â chwarae gêm gyfeillgar gan ddewis dod a'r tîm at ei gilydd yn ne Cymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.