Achos Bala: Dyn yn y ddalfa

  • 14 Tachwedd 2012
Stryd Plasse
Cafodd y stryd ei chau gan yr heddlu wedi'r llofruddiaeth

Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn Y Bala ddydd Sadwrn wedi bod gerbron Ynadon Caernarfon fore Mercher.

Cafodd Julius Hecko, 23 oed o Slofacia, ei gyhuddo o lofruddio Branislav Gula, 42 oed o'r un wlad, yn Heol Plasse, Y Bala, ddydd Sadwrn.

Nid oedd cais am fechnïaeth a bydd yn y ddalfa tan Ionawr 7.

Mae pedwar arall gafodd eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andrew Williams, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Er ein bod wedi cyhuddo dyn o lofruddiaeth, mae ein hymchwiliad yn parhau.

"Hoffwn apelio at unrhyw un yn y gymuned oedd yn dyst i'r hyn arweiniodd at y digwyddiad neu unrhyw un sy'n gallu ein helpu i greu darlun cyflawn ffonio'r heddlu ar 101."

Fe all pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.