Cyhuddo Aelod Cynulliad

  • 12 Tachwedd 2012

Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi cyhuddo'r Aelod Cynulliad, Bethan Jenkins, o yfed a gyrru.

Fe gafodd hi ei harestio yng Nghaerdydd bron mis yn ôl.

Mae disgwyl iddi hi fod gerbron Ynadon Caerdydd ar Ragfyr 19.