Cwpan LV: Caerwrangon 34-18 Scarlets

Andy Fenby yn ymosod Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Andy Fenby yn ymosod

Caerwrangon: (6) 34

Ceisiau: Howard, Taulava, Abbott, Best. Trosiadau: J Carlisle (4) Ciciau cosb: J Carlisle (2)

Scarlets (13) 18

Ceisiau: Fenby, K Phillips Trosiadau: O Williams Ciciau cosb: O Williams (2)

Wrth wella yn yr ail hanner cafodd Caerwrangon fuddugoliaeth gyfforddus yn y gystadleuaeth rygbi Eingl Gymreig.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen 6-13 ar yr egwyl wedi cais Andy Fenby, gydag Owen Williams yn trosi ar ôl llwyddo gyda dwy gic gosb flaenorol.

Ond Caerwrangon oedd yn rheoli ar ôl yr egwyl gyda cheisau gan Ben Howard, Semisi Taulava a Jake Abbott.

Ymatebodd Kristian Phillips gyda chais i'r Scarlets ond cais Neil Best roddodd y gair olaf i Gaerwrangon.

Timau

Scarlets: A Fenby; K Phillips, G Maule (capt), A Warren, L Williams; A Thomas, A Davies; S Hopkins, K Myhill, J Adriaanse, J Ball, J Snyman, C Price, D Thomas, K Murphy.

Eilyddion: R Wilkes, G Thomas, P Edwards, G Earle, J Edwards, R Williams, O Williams, N Reynolds.

Caerwrangon: Chris Pennell; Nikki Walker, Alex Grove, Jon Clarke, Andy Short; Joe Carlisle, Jonny Arr; George Porter, Ed Shervington, James Currie, Dean Schofield (capt), Chris Jones, Richard de Carpentier, Jake Abbott, Blair Cowan.

Eilyddion: Ollie Hayes, Ceri Jones, Rob O'Donnell, James Percival, Neil Best, Ollie Frost, Andy Goode, Ben Howard.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.