Wrecsam 1-2 Henffordd

  • 10 Tachwedd 2012

Luke Graham sgoriodd y gôl allweddol wedi 90 munud wrth i Henffordd roi sioc i Wrecsam ddydd Sadwrn.

Roedd peniad Chris Todd wedi 8 munud wedi rhoi'r ymwelwyr ar y blaen ar ôl i Wrecsam fethu â chlirio cic gornel.

Fe wnaeth holl bwysau Wrecsam ddwyn ffrwyth o'r diwedd wedi 58 munud pan wnaeth cic uwch ei ben gan Stephen Wright ddod â'r Dreigiau yn gyfartal.

Tarodd Joe Clarke y postyn dros Wrecsam cyn i beniad hwyr Graham sicrhau buddugoliaeth i dîm Martin Foyle.

Hon oedd yr eildro yn unig i Wrecsam golli ar y Cae Ras eleni.

Casnewydd sy'n parhau ar frig y tabl, er mai colli 4-3 oedd eu hanes oddi-cartref nos Wener yn erbyn Alfreton.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1.CASNEWYDD 18 16 36
2. WRECSAM 17 13 32
3. Luton 17 7 32
4. Grimsby 18 11 30
5. Forrest Green 17 10 30