Gwasanaethau coffa yng Nghaerdydd

  • 10 Tachwedd 2012

Mae gwasanaethau arbennig yn cael eu cynnal dros y penwythnos i nodi Dydd y Cadoediad.

Dydd Sadwrn mae Carwyn Jones wedi mynychu Gwasanaeth Cofio y tu allan i'r Senedd.

Yno y mae Cofeb Rhyfel y Llynges Fasnach.

Roedd y gwasanaeth rhwng 11am a 11.45am.

Yn gynharach yn y dydd am 10.50am roedd 'na wasanaeth arbennig yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

Y Parchedig Ganon Margaret Jefford oedd yn cynnal y gwasanaeth y tu allan i Gofeb Rhyfel Trecelyn sydd wedi cael ei hailgodi.

Mae hwn yn wasanaeth blynyddol sy'n cael ei gynnal yn yr amgueddfa i goffáu y rhai a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd.

Ar Sul y Coffa bydd y Prif Weinidog yn cymryd rhan yn y Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol wrth Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.