Catherine Zeta Jones yn ail-enwi ysbyty plant

Catherine Zeta Jones
Image caption Ganed Catherine Zeta Jones yn Abertawe

Mae un o brif sêr Hollywood, Catherine Zeta Jones, wedi ail-enwi Ysbyty Plant Cymru yng Nghaerdydd.

Dadorchuddiwyd yr enw newydd, Ysbyty Plant Arch Noa, gan yr actores ddydd Gwener.

Mae Ms Zeta Jones, a aned yn Abertawe, yn un o noddwyr Apêl Arch Noa a sefydlwyd er mwyn codi arian ar gyfer sefydlu'r ysbyty gafodd ei agor yn 2006.

Rhoddodd Catherine Zeta Jones a'i gŵr, yr actor Michael Douglas, swm pum ffigwr i'r apêl yn 2005.

Mae'r apêl eisoes wedi codi £12m gyda'r nod o godi £8m ymhellach erbyn 2015, pan ddisgwylir i ail ran yr adeiladu cael ei orffen.

Dywedodd Paul Hollard, dirprwy prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi £64m ar gyfer codi ail ran yr ysbyty.

Bydd arian Apêl Arch Noa - yr £8m - yn talu am offer.

Dywedodd Lyn Jones, cadeirydd Apêl Arch Noa, bod llawer o bobl wedi gweithio'n ddiflino er mwyn darparu'r cyfleusterau a'r adnoddau gorau i blant Cymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.