Milfeddyg: Cadarnhau gweddillion ar lan Afon Dyfrdwy

  • 7 Tachwedd 2012
Catherine Gowing
Cafodd Catherine Gowing ei gweld yn gadael archfarchnad ar Hydref 12

Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai gweddillion Catherine Gowing y cafwyd hyd iddyn nhw ar lannau Afon Dyfrdwy yn Higher Ferry, Caer, ddydd Gwener Tachwedd 2.

Eisoes cafwyd cadarnhad i weddillion eraill Ms Gowing gael eu canfod yn Seland ar Hydref 31.

Mae crwner gogledd ddwyrain Cymru wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Mark Pierce: "Mae teulu Catherine wedi cael gwybod am ganlyniadau'r archwiliad post mortem.

"Fel y gallwch ddychmygu mae hwn yn amser anodd iawn iddyn nhw.

"Maen nhw'n derbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol ac rydym yn rhoi gwybod iddyn nhw am unrhyw ddatblygiadau yn yr ymchwiliad."

Mae Clive Sharp, 46 oed o Fethesda, wedi ei gyhuddo o lofruddio a bydd o flaen llys ym mis Ionawr.

Mae'r heddlu yn parhau'n awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd car Renault Clio Ms Gowing gyda'r plât cofrestru 00D 99970 neu gar Mr Sharp Volvo du S40 a'r plât cofrestru AG58 JHE rhwng nos Wener Hydref 12 a bore Llun Hydref 15.

"Byddwn am glywed gan unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn ardal Manor Road, Sealand, neu yn Higher Ferry," ychwanegodd Mr Pierce.

Mae'r heddlu yn dal i ofyn i bobl gysylltu gyda nhw os oes ganddyn nhw wybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad, a hynny drwy ffonio 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.