Casnewydd 6-2 Caergrawnt

Casnewydd 6-2 Caergrawnt

Sgoriodd Casnewydd chwe gôl yn eu buddugoliaeth ar Rodney Parade yn erbyn Caergrawnt nos Fawrth.

Mae'r Alltudion yn parhau ar frig y bencampwriaeth.

Doedd Casnewydd ddim wedi ennill yn eu tair gêm ddiwethaf ond dyma fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn tîm sy'n brwydro i beidio bod ar waelod y gynghrair.

Lee Minshull, Michael Flynn, Andy Sandell, Aaron O'Connor a Michael Smith wnaeth sgorio i Gasnewydd gyda O'Connor yn cael dwy gôl.

Tom Elliot a Luke Berry sgoriodd i'r ymwelwyr sydd wedi ennill dim ond tair o'u 16 gêm diwethaf.

Mae gan Gasnewydd bedwar pwynt o fantais ar Wrecsam a gododd i'r ail safle wedi eu buddugoliaeth nhw.

Roedd Casnewydd ar y blaen 2-0 wedi 17 munud cyn i Elliot sgorio i'r ymwelwyr wedi 28 munud.

Ond fe wnaeth Sandell ymestyn mantais y tîm cartref i fod yn 3-1 ar yr hanner.

O'Connor seliodd y fuddugoliaeth i Gasnewydd wedi 62 munud cyn i Berry gael ail gôl yr ymwelwyr wedi 69 munud.

Ond gyda Chaergrawnt yn dal i ddathlu'r ail gôl fe wnaeth Casnewydd ac O'Connor sgorio am yr ail waith funud yn ddiweddarach cyn i Smith sgorio chweched y tîm cartref yn y funud olaf.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1.CASNEWYDD 17 17 36
2. WRECSAM 16 14 32
3. Luton 17 7 32
4. Grimsby 18 11 30
5. Forrest Green 17 10 30