Ryan Jones allan o gêm Ariannin

  • 5 Tachwedd 2012
Ryan Jones
Mae gobaith y bydd Ryan Jones ar gael i wynebu Samoa ymhen 11 diwrnod

Daeth ergyd arall i dîm rygbi Cymru cyn gemau rhyngwladol yr hydref gan na fydd Ryan Jones ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Mae blaenasgellwr y Gweilch wedi gadael gwersyll ymarfer Cymru yn Spala, Gwlad Pŵyl, ers diwedd yr wythnos ddiwethaf.

Daeth adref i gael sgan ar ei ysgwydd sydd wedi bod yn ei boeni ers wythnosau.

Ar ôl adolygu'r canlyniadau, penderfynodd tîm meddygol Cymru fod angen cyfnod pellach o orffwys ar Jones.

Wedi dweud hynny, mae disgwyl y bydd yn y garfan i wynebu Samoa ddydd Gwener, Tachwedd 16.

Bydd Rob Howley yn enwi'r tîm i wynebu Ariannin brynhawn Mawrth, Tachwedd 6, am 1:00pm.