Gwrthwynebydd newydd i Cleverly

  • 5 Tachwedd 2012
Nathan Cleverly Image copyright BBC Sport
Image caption Nathan Cleverly yw pencampwr is-drwm WBO y byd

Bydd y bocsiwr Nathan Cleverly yn amddiffyn ei goron WBO is-drwm y byd yn erbyn Shawn Hawk nos Sadwrn.

Roedd y Cymro 25 oed i fod i ymladd yn erbyn Ryan Coyne yn Los Angeles, ond bu'n rhaid i Coyne dynnu'n ôl oherwydd trafferthion cytundebol, ac fe gamodd Hawk i'r adwy ar y funud olaf.

Mae Hawk, bocsiwr 28 oed sy'n cael ei adnabod fel y "Sioux Warrior", wedi ennill 23 o'i 26 gornest gan gnocio 17 o'i wrthwynebwyr allan cyn y diwedd, ond fe gollodd ei frwydr ddiweddaraf yn erbyn Eleider Alvarez dros yr haf.

Nid yw Cleverly, sydd wedi bod yn ymarfer yn Califfornia ers yr wythnos ddiwethaf, yn rhy bryderus am y newid.

"Yn sicr fe fyddaf yn ceisio dod â'r ornest i ben yn gynnar," meddai.

"Fe fyddaf yn gwylio tua thri munud o Hawk ar YouTube - dyna'r cyfan sydd angen ei weld ohono.

"Mae ganddo record dda gyda chanran uchel o KOs, felly mae ganddo ergyd dda a fydda' i ddim yn ei drin yn ysgafn a bod yn ddiofal.

"Mae ganddo gyfle mawr yn camu i'r adwy i fynd am deitl byd, a does ganddo ddim i'w golli. Mae e'n beryglus, ond fe fyddaf ar fy ngwyliadwriaeth."

Roedd ei wrthwynebydd gwreiddiol, Coyne, yn 'southpaw', neu'n focsiwr llaw chwith, ond mae Hawk yn focsiwr confensiynol llaw dde.

"Fe fyddaf yn iawn os ydw i'n dibynnu ar fy ngreddf ymladd," meddai Cleverly.

"Roeddwn i wedi cyrraedd y pwynt lle doedd dim ots gen i pwy oedd yn f'erbyn. Roeddwn wedi penderfynu fy mod yn barod i ddod i America ac ymladd yn erbyn pwy bynnag fydd o 'mlaen."

Straeon perthnasol