Ryan Jones yn dychwelyd i Gymru i gael profion ar anaf

Mae Ryan Jones wedi dychwelyd o sesiwn hyfforddi Cymru yng Ngwlad Pwyl gydag anaf i'w ysgwydd.

Roedd wedi ei anafu cyn hedfan allan i Spala ar gyfer y sesiwn hyfforddi cyn gemau rhyngwladol yr hydref.

Bydd yn cael sgan ar ei ysgwydd cyn bod penderfyniad yn gallu ei wneud i'w gynnwys yn y garfan.

Eisoes mae Cymru yn gwybod na fydd y blaenasgellwr Dan Lydiate ar gael i wynebu timau Ariannin, Samoa, Seland Newydd ac Awstralia yn ystod mis Tachwedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru eu bod wedi penderfynu anfon Jones adref er mwyn iddo gael profion mewn unedau arbenigol yng Nghymru.

Ni wnaeth o gymryd rhannau yn ymarferion yng Ngwlad Pwyl ac eithrio'r pwll nofio.

Fe fydd Cymru hefyd heb y prop Adam Jones.

Fydd o ddim ar gael am rhwng chwech a 10 wythnos oherwydd anaf.

Carfan Cymru:

Olwyr: L Halfpenny (Gleision), Liam Williams (Scarlets); A Cuthbert (Gleision), G North (Scarlets), H Robinson (Gleision); A Beck (Gweilch), J Davies (Scarlets), J Roberts (Gleision), S Williams (Scarlets); D Biggar (Gweilch), J Hook (Perpignan), R Priestland (Scarlets); T Knoyle (Scarlets), M Phillips (Bayonne), Lloyd Williams (Gleision).

Blaenwyr: S Andrews (Gleision), R Bevington (Gweilch), P James (Caerfaddon), A Jarvis (Gweilch), G Jenkins (Toulon), S Lee (Scarlets); R Hibbard (Gweilch), K Owens (Scarlets), M Rees (Scarlets); B Davies (Gleision), L Charteris (Perpignan), I Evans (Gweilch), AW Jones (Gweilch); T Faletau (Dreigiau), R Jones (Gweilch), R McCusker (Scarlets), A Shingler (Scarlets), J Tipuric (Gweilch), J Turnbull (Scarlets), S Warburton (Gleision, capt).