Gwesty newydd yn Llanelli yn creu 15 swydd

  • 31 Hydref 2012
Gwesty Travelodge
Mae Travelodge yn berchen mwy na 500 o westai yn y DU, Iwerddon a Sbaen

Mae cwmni Travelodge wedi cyhoeddi y byddan nhw'n creu 200 o swyddi ar draws Prydain cyn y Nadolig.

Fe fydd y cwmni'n agor naw gwesty newydd un ohonyn nhw yn Llanelli gan greu 15 o swyddi yno.

Yn ôl Travelodge bydd y swyddi'n rhai tymor hir.

Mae Travelodge yn berchen mwy na 500 o westai yn y DU, Iwerddon a Sbaen.