Cyhoeddi dyddiad angladd Karina Menzies yn Nhrelái

Karina Menzies
Bu farw Karina Menzies ac fe gafodd ei dwy ferch eu hanafu yn y digwyddiad

Bydd angladd menyw fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd yn cael ei gynnal ddydd Gwener Tachwedd 9.

Cafodd Karina Menzies, 31 oed, ei tharo y tu allan i orsaf dân Trelái ar Hydref 19, ac fe gafodd 13 o bobl eraill, gan gynnwys plant, eu hanafu mewn cyfres o wrthdrawiadau tebyg ar draws y ddinas.

Bydd corff Ms Menzies yn cael ei gludo gan geffyl o'i chartref yn Nhrelái i Eglwys yr Atgyfodiad ar Grand Avenue.

Bydd yr angladd yn cael ei gynnal am 1pm ac fe fydd cyfle i'r rhai y tu allan glywed y gwasanaeth ar uchel seinydd.

Cronfa ymddiriedolaeth

Dywed trefnwyr fod yna groeso i bawb fynychu angladd Ms Menzies, oedd yn fam i dri o blant.

Wedi'r gwasanaeth yn yr eglwys fe fydd ei chorff yn cael ei gludo i Fynwent y Gorllewin yn Nhrelái lle bydd y gladdedigaeth yn cael ei gynnal am 2.30pm.

Bydd casgliad yn cael ei gynnal yn ystod yr angladd i godi arian ar gyfer dwy gronfa ymddiriedolaeth.

Mae un wedi'i sefydlu ar gyfer plant Ms Menzies ac mae'r llall ar gyfer dioddefwyr eraill y digwyddiad gan gynnwys ei phlant.

Mae llyfr cydymdeimlad ar agor ym mharlwr angladdau Roy J Larcombe ar Ffordd Gorllewin Y Bontfaen rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Mae Matthew Tvrdon, 31 oed, wedi'i gyhuddo o lofruddio Ms Menzies ac mae'n wynebu 18 cyhuddiad arall, sef 13 chyhuddiad o geisio llofruddio, pedwar cyhuddiad o ymosod gan beri niwed corfforol, a chyhuddiad o yrru'n beryglus.