Cyhuddo dyn wedi ymosodiad rhyw ar dir prifysgol

  • 28 Hydref 2012

Mae dyn 22 oed wedi cael ei gyhuddo o ymosodiad rhyw ar gampws prifysgol.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y dyn yn dod o ardal Llanbedr Pont Steffan.

Fe ddigywddodd ymosodiad ar ddynes 19 oed ar dir Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sanr yn oriau mân dydd Mawrth Hydref 23.

Mae disgwyl i'r dyn ymddangos o flaen Ynadon Aberystwyth ddydd Llun.

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un welodd y dyn yn Llanbed rhwng 11.30pm ar Hydref 22 a 4am ar Hydref 23 i ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.