Michel Vorm allan am rai wythnosau ar ôl anaf

  • 28 Hydref 2012
Michel Vorm
Cafodd Michel Vorm ei gludo oddi ar y cae wedi'r anaf

Fydd gôl-geidwad Abertawe ddim ar gael am 6-8 wythnos ar ôl anaf yn ystod y gêm yn erbyn Manchester City ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth y clwb gadarnhau'r anaf i forddwyd Michel Vorm ddyddiau cyn i Abertawe wynebu Lerpwl ym mhedwaredd rownd Cwpan Capital One nos Fercher.

Cafodd Vorm ei anafu wrth geisio arbed ergyd Carlos Tevez roddodd y fuddugoliaeth i'r pencampwyr yn Stadiwm Etihad.

Yr Almaenwr Gerhard Tremmel, 33 oed, aeth ymlaen yn lle Vorm ac mae disgwyl iddo gychwyn y gêm i'r Elyrch ddydd Mercher yn Anfield.

Tremmel sydd wedi bod yn y gôl i Abertawe yn y ddwy gêm Capital One y tymor yma.

Y gêm ddydd Sadwrn oedd ei chweched yn unig i Abertawe ar ôl dod ymlaen fel eilydd wedi 64 munud.

Mae Tremmel yn gyn-chwaraewr gyda Red Bull Salzburg.