Cymru 12- 80 Lloegr

Josh Charnley
Cafodd Josh Charnley bedwar cais i Loegr

Cymru 12- 80 Lloegr

Dyma oedd y nifer mwya o bwyntiau i Loegr ei sgorio yn erbyn Cymru wrth iddyn nhw gael buddugoliaeth gyfforddus yng ngemau'r hydref rygbi'r gynghrair.

Roedd tîm rygbi 13 Lloegr yn rhy gryf o lawer i Gymru gan sgorio 80 pwynt ar y Cae Ras yn Wrecsam ddydd Sadwrn.

Deuddeg pwynt sgoriodd y crysau coch.

Mae Lloegr felly yn sicr yn y rownd derfynol.

Gan fod Cymru eisoes wedi colli i Ffrainc, bydd Lloegr yn wynebu'r crysau glas ddwywaith mewn wythnos.