Amgueddfa Lechi yn dathlu'r deugain gyda darlith

Amgueddfa Lechi Cymru
Mae pobl wedi mwynhau ymweld â'r amugeddfa ers iddi agor ym 1972

Bydd darlith flynyddol gyntaf Amgueddfa Lechi Cymru yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn fel rhan o ddathliadau'r sefydliad yn 40 oed eleni.

Dr Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa, fydd yn edrych ar hanes amgueddfeydd llechi yn yr ardal yn ei ddarlith Cloddio'r Gorffennol.

Caeodd y gweithdai gwreiddiol o Oes Fictoria - sydd bellach yn gartref i Amgueddfa Lechi Cymru - ym mis Awst 1969 ynghyd â Chwarel Lechi Dinorwig.

Fe wnaethon nhw ailagor ar Fai 25 1972 fel Amgueddfa Chwarela Gogledd Cymru.

'Safle hanesyddol'

"Ers y diwrnod yna ym 1972 mae dros 2.6 miliwn o bobl wedi ymweld â'r Amgueddfa, sy'n un o saith safle Amgueddfa Cymru," meddai Dr Roberts am yr amgueddfa yn Llanberis.

"Maen nhw i gyd wedi cerdded drwy'r fynedfa fwaog wych er mwyn profi a dysgu mwy am hanes y diwydiant llechi enfawr yn yr ardal yma.

"Rydyn ni eisiau i'n 40fed pen-blwydd adlewyrchu a dathlu'r holl weithgarwch mae'r safle hanesyddol yma wedi'i weld yn ystod y degawdau diwetha', o'r dyddiau cychwynnol yn y 70au i ymweliadau gan y Tywysog Charlesac o'r ailddatblygiad mawr ar gost o £2 miliwn ar ddiwedd y 90au i Fynediad Am Ddim yn y mileniwm newydd."

Dechreuodd y dathliadau'n ym mis Mai gydag agor Dathlu'r Deugain, arddangosfa sy'n dangos beth sydd wedi digwydd yn yr Amgueddfa yn ystod y pedwar degawd diwethaf ac sy'n olrhain sefydlu'r Amgueddfa a rôl amgueddfeydd yn ein cymunedau heddiw.