Angladd tair cenhedlaeth o'r un teulu

Kim Buckley, Kayleigh Buckley a Kimberley Buckley
Bu farw tair cenhedlaeth teulu Buckley yn y tân

Bu cannoedd o bobl mewn angladd tair cenhedlaeth o'r un teulu a fu farw mewn tân yn eu cartref fis diwethaf.

Cafodd Kayleigh Buckley, 17 oed, ei merch chwe mis oed Kimberley, a'i mam 46 oed Kim eu lladd yn eu cartref yng Nghwmbrân ym mis Medi.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ yn Tillsland ar stad Coed Efa yn y dref yn oriau man Medi 18.

Ond roedd y tŷ eisoes yn wenfflam, a bu farw'r tair yn y tân.

'Gofal, cariad a chymorth'

Cafodd angladdau'r tair eu cynnal yn Eglwys Sant Gabriel yng Nghwmbrân fore Iau.

Diolchodd Y Tad Michael Phillips gymdogion a geisiodd achub y tair ac fe dalodd teyrnged i'r gwasanaethau brys a staff Uned Gofal Arbennig Babanod Ysbyty Brenhinol Gwent am eu "hymroddiad" wrth ofalu am Kimberley.

Gan arwain y gwasanaeth, dywedodd: "Dydyn ni ddim yn gallu credu beth sydd wedi digwydd.

"Digwyddodd popeth mor gyflym ond rydym yn gwybod ei fod wedi digwydd."

Dywedodd Esgob Mynwy, y Gwir Barchedig Dominic Walker fod colled y teulu yn cael ei rannu gan yr holl gymuned "sydd wedi dod at ei gilydd gyda gofal, cariad a chymorth".

Mae Carl Mills, 28 oed, wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar gyhuddiad o lofruddio Ms Buckley, Kayleigh a Kimberley.