Bocsio: Gornest Cleverly i gael ei chanslo?

Nathan Cleverly
Mae Cleverly wedi ennill 24 gornest heb golli

Mae'n bosib na fydd Nathan Cleverly yn amddiffyn ei goron is-drwm WBO y byd ym mis Tachwedd oherwydd anghydfodynglŷn â chytundebau.

Mae Cleverly i fod herio'r Americanwr Ryan Coyne yn Los Angeles ar Dachwedd 10.

Ond mae Coyne yn bryderus y bydd ei gyn-asiant Don King yn gorfodi'r ornest i gael ei chanslo.

Penderfynodd Cleverly ganslo gornest â Vyacheslav Uzelkov o Wcráin yng Nghaerdydd i ymladd â Coyne yn yr Unol Daleithiau.

"Fe fydd Nathan yn ymladd yn erbyn rhywun ond ni fyddwn ni'n gwybod tan heno," meddai tad Cleverly, Vince ddydd Iau.

Hwn fydd y pedwerydd tro i'r Cymro 25 oed o Gefn Fforest ger y Coed-duon amddiffyn ei bencampwriaeth.

Mae Cleverly wedi ennill bob un o'i 24 gornest, ac mae Coyne wedi ennill 21 o'i 22 ornest.