Apêl wedi ymosodiad rhyw

Police traffic car
Roedd yr ymosodiad tua 3:30am fore Mawrth

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi ymosodiad rhyw ar ferch 19 oed ar gampws prifysgol yn Llanbed.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod dyn rhwng 17 a 25 oed wedi mynd at y ferch ar dir y brifysgol.

Mae mwy o blismyn ar batrôl a dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.

Digwyddodd yr ymosodiad tua 3:30am fore Mawrth, Hydref 23.

Dywedodd yr heddlu fod y dyn tua 5'6"-5'7" o daldra gyda gwallt brown byr.

Cafodd dyn tebyg ei weld tua 11:30pm nos Lun, Hydref 22, yn cerdded ar hyd Stryd y Farchnad ger archfarchnad Sainsbury's.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Steve Davies: "Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd allan yn y dref y noson honno ac a welodd naill ai'r ferch neu'r dyn ..."

Os gwelodd rhywun y dyn yn Llanbed rhwng 11:30pm ar Hydref 22 a 4:00am ar Hydref 23 mae modd ffonio Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.