Cynllun am 45,000 o gartrefi newydd erbyn 2026 i Gaerdydd

Llun o ganol dinas Caerdydd
Dywed arweinwyr Cyngor Caerdydd bod galw anferth am dai yn y ddinas

Mae cynghorwyr Caerdydd wedi pleidleisio o blaid y cynllun ehangu mwyaf yn y ddinas ers y 1950au.

Golygai'r penderfyniad y bydd 45,000 o dai newydd yn cael eu codi erbyn 2026.

Bydd swyddogion nawr yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

Yna, bydd cynllun mwy manwl yn cael ei roi gerbron y cyngor y flwyddyn nesaf.

Mae'r glaslun hefyd yn nodi buddsoddiad anferth mewn trafnidiaeth gyhoeddus wedi rhybudd y bydd y boblogaeth yn cynyddu i dros 400,000 a thraffig yn cynyddu o draean.

Bydd ymgais gan y cyngor i leihau defnydd pobl o geir, ac fe fydd mwy o lonydd bysiau yn cael eu cyflwyno.

Cafodd yr argymhellion eu rhestru yn y strategaeth sy'n cael ei ffafrio ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Caerdydd.

Cartrefi a gwaith

Mae'n amlinellu safleoedd ar gyfer datblygiadau tai a chyflogaeth anferth, ac maen nhw'n cynnwys safleoedd gwyrdd a brown.

Y cynllun unigol mwyaf yw safle ar gyfer 7,500 o dai mewn maestref newydd i'r gorllewin o Pentrebaen, a thua 6,000 a 2,000 wedi eu clustnodi'r ddwy ochr i Bontprennau, ac fe allai 2,000 o dai hefyd gael eu codi ar dir i'r gogledd o gyffordd 33 o'r M4.

Dywedodd Ralph Cook, dirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae gan bob awdurdod lleol eu cynllun datblygu eu hunain, ac mae'r rhain yn cynnwys y nifer o dai y maen nhw'n dyheu, neu yn rhagweld y byddan nhw'n eu codi.

"Felly maen nhw'n ysgwyddo peth o'r baich, ond y gwir amdani yw bod datblygwyr, a phobl eu hunain, am fyw a gweithio yng Nghaerdydd."

Dywedodd hefyd bod tystiolaeth y bydd poblogaeth Caerdydd "ar fin tyfu" a bod "galw anferth" am dai yn y ddinas.

"Mae o leiaf 10,000 o deuluoedd ar y rhestr aros am dai er enghraifft," meddai.

Trafnidiaeth

Aiff y Cynllun Datblygu Lleol ymlaen i ddweud bod cynlluniau ar gyfer 40,000 o swyddi erbyn 2026 - cynnydd o 20% - gyda'r gwasanaethau ariannol a busnes yn disgwyl hwb o tua 55% o swyddi newydd.

Erbyn 2026, mae disgwyl y bydd poblogaeth Caerdydd wedi codi i gymaint â 408,000 yn ôl adroddiad.

St Mary Street, Cardiff in 1895
Daeth twf mwyaf Caerdydd ar ddiwedd Oes Fictoria

Mae tua chwarter poblogaeth de-ddwyrain Cymru yn byw yng Nghaerdydd, ond mae'n darparu tua thraean o'r swyddi.

Mae hynny'n golygu bod 74,000 o weithwyr - neu 37% o'r gweithlu - yn teithio i'r ddinas bob dydd, ac mae pedwar o bob pump o'r rheini yn defnyddio'u ceir.

Dywedodd Mr Cook bod trafnidiaeth felly yn allweddol i lwyddiant y ddinas.

"Mae trafnidiaeth yn her wrth gwrs," meddai. "Dyw dinasoedd sy'n dod i stop oherwydd tagfeydd ddim yn datblygu."

Ar ôl y bleidlais gan gynghorwyr, fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun fydd hefyd yn cynnwys mwy o waith manwl arno.

Dywedodd yr Athro Kevin Morgan o Brifysgol Caerdydd bod angen i'r cyngor "gael trefn ar eu polisi tai".

Ond dywedodd ei bod yn "wleidyddol amhosib" i Gaerdydd wneud lle i'r holl gartrefi.

"Rwy'n credu mai rhannu yw'r dyfodol," meddai, "gyda rhai o'r tai yn cael eu codi yn y ddinas a rhai'n cael eu codi o fewn awdurdodau cyfagos yn y cymoedd.

"Nid mater i Gaerdydd yn unig yw hwn. Mae gennym rhwng 70-80,000 o bobl yn teithio i mewn bob dydd, ac mae'n rhaid i'r ardal ehangach sylweddoli bod eu tynged nhw yn rhan o hyn hefyd.

"Gallan nhw gyflawni mwy drwy weithio gyda'i gilydd nag y gallan nhw ar wahân."