Dau beilot: Marwolaeth ddamweiniol ger y Trallwng

Bob Jones
Mr Jones oedd yn gyfrifol am sefydlu'r maes awyr

Mae rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol wedi ei chofnodi yn achos dau beilot gafodd eu lladd wedi i'w hawyren daro coed ar fynydd.

Bu farw Bob Jones, 60 oed, a Steve Carr, 55 oed, o Ruthun wedi damwain ar fynydd Cefn Digoll ger Y Trallwng ar Ionawr 18 eleni.

Mr Jones wnaeth sefydlu Maes Awyr y Canolbarth ar dir ger ei fferm a'i ddatblygu o lain glanio yn 1990 i fod yn faes awyr pwysig i fusnesau'r ardal.

Cofnodwyd y rheithfarn yn y cwest yn Y Trallwng ddydd Mercher.

Wrth roi tystiolaeth i'r gwrandawiad, dywedodd yr ymchwilydd i ddamweiniau awyren, Paul Hannant, fod dau achos posib i'r ddamwain.

Un oedd bod yr awyren wedi disgyn i gymylau oedd wedi cuddio coed, a'r llall yw bod nam ar yr offer llywio. Ond byddai nam o'r fath yn anghyffredin iawn, meddai.

Pan ddigwyddodd y ddamwain, roedd Mr Carr yn hedfan yr awyren Piper PA am y tro cyntaf er 1998.

Canfu adroddiad gan Adran Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr "y gallai'r dynion wedi meddwl eu bod yn uwch na'r mynydd".

Mae'r adroddaid hefyd yn sôn fod cymylau yn cuddio coed ar dir uchel.

Mae Maes Awyr y Canolbarth yn cynnal Sioe Awyr bob blwyddyn, sydd bellach wedi'i henwi er cof am Mr Jones.