Cau ffatri a cholli 60 o swyddi?

Logo Kimberly-Clark
Ni fydd gweithwyr ffatri arall y cwmni ym Melin Cwnsyllt yn cael eu heffeithio

Mae 60 o swyddi mewn ffatri yn y Fflint sy'n gwneud tywelion papur dan fygythiad.

Mae trafodaethau wedi dechrau am y posibilrwydd o gau ffatri Kimberly-Clark ym Melin Delyn ond ni fydd effaith ar weithwyr ffatri arall ym Melin Cwnsyllt.

Dywedodd y cwmni fod angen canolbwyntio adnoddau a buddsoddiadau ar eu marchnadoedd cryfaf.

Y disgwyl yw i'r ffatri gau erbyn diwedd y flwyddyn os bydd y cwmni'n penderfynu ei gau.

'Ffatri allweddol'

Dywedodd Euan Anderson o'r cwmni: "Byddwn yn delio â phob aelod o staff yn deg yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Bydd rhaid inni wneud penderfyniadau anodd ond rhaid inni wneud hynny fel bod y cwmni'n fwy cystadleuol ac er mwyn i ni gryfhau'r busnes yn Ewrop."

Dywedodd Aelod Seneddol Delyn, David Hanson, ei fod yn siomedig iawn.

"Mae Kimberly Clark yn gyflogwr allweddol yn Sir y Fflint ac mae Melin Delyn wedi bod yn ffatri allweddol.

"Rwyf wedi siarad â'r cwmni heddiw ac fe fyddaf yn ceisio cyfarfod â'r cwmni i drafod y cais i gau'r ffatri.

"Rwyf hefyd am glywed gan weithwyr ac undebau lleol."

Mae 57,000 o bobl yn gweithio i'r cwmni ar draws y byd ac mae eu cynnyrch yn cynnwys Kleenex a Kleenguard.