Sgerbwd yn taflu goleuni ar y Llychlynwyr

Y sgerbwd yn Llanbedrgoch
Daeth i'r golwg oherwydd cloddio archeolegwyr Amgueddfa Cymru

Mae sgerbwd yn taflu golau ar effaith diwylliannau Eingl-Sacsonaidd a Llychlynnaidd ar ardal Môr Iwerddon, medd archeolegwyr.

Daeth i'r golwg oherwydd cloddio archeolegwyr Amgueddfa Cymru yn olion Oes y Llychlynwyr yn Llanbedrgoch ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn.

Cafodd y sgerbwd ei ddarganfod mewn bedd bas gyda'r corff ar ogwydd anarferol sy'n awgrymu nad oedd y claddu'n dilyn arferion Cristnogaeth.

Mae hyn a'r driniaeth o'r corff yn awgrymu gwahaniaethau rhwng arferion claddu Cristnogion a chymunedau eraill yn y ddegfed ganrif.

Ac mae'r gladdedigaeth yn ychwanegiad at bump arall gafodd eu darganfod ym 1998-99, dau yn eu harddegau, dau oedolyn gwrywaidd ac un benywaidd.

'Agweddau annisgwyl'

Dywedodd cyfarwyddwr y cloddio, Dr Mark Redknap: "Mae'r cloddio wedi datgelu agweddau annisgwyl, gan ddarparu tystiolaeth bwysig am y clwstwr hwn o feddau a'i gyd-destun hanesyddol.

"Ond mae hefyd wedi rhoi i ni ddata gwerthfawr newydd am ddatblygiad y safle cyn cyfnod y Llychlynwyr.

"O dan ran o'i ragfur carreg 2.2m o led, a adeiladwyd yn y nawfed ganrif, daeth ein tîm o fyfyrwyr a gwirfoddolwyr o hyd i dir claddedig cynharach a nifer o ffosydd a throstyn nhw roedd tomen sbwriel ganoloesol yn llawn gwastraff bwyd a rhai gwrthrychau a daflwyd.

"Cafwyd hyd i wrthrychau eraill hefyd, gan gynnwys gwastraff castio arian a darn o geiniog arian Islamaidd fyddai wedi cael ei chyfnewid ar hyd y llwybrau masnach o ganolbarth Asia i Sgandinafia a thu hwnt.

'Masnachu'

"Mae'r rhain yn cadarnhau pwysigrwydd Llanbedrgoch yn ystod y ddegfed ganrif fel canolfan gweithgynhyrchu a masnachu nwyddau."

Mae Llanbedrgoch yn un o aneddiadau mwyaf diddorol y cyfnod ac mae Adran Archaeoleg a Niwmismateg Amgueddfa Cymru wedi treulio deg haf yn gwneud gwaith maes yno.

Cafodd y safle ei ddarganfod ym 1994 wedi i'r amgueddfa gael cais i adnabod nifer o wrthrychau gafodd eu darganfod â theclynnau chwilio metel.