Bachgen 15 oed yn cael triniaeth wedi i wal syrthio

Canolfan Hamdden Trefynwy
Roedd y ddamwain yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy

Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i fachgen 15 oed gael ei anafu mewn canolfan hamdden.

Roedd wal fewnol yn yr ystafell newid wedi syrthio ar Daniel Morgan, disgybl yn Ysgol Gyfun Trefynwy.

Mae'r ysgol yn defnyddio'r ganolfan ar gyfer gwersi addysg gorfforol.

Cafodd y Gwasanaeth Tân a'r Gwasanaeth Ambiwlans eu galw i'r safle tua 2.11pm.

'Cyn y wers'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy fod Daniel wedi cael ei gludo i Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni.

Cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd ddydd Mercher.

"Digwyddodd y ddamwain yn yr ystafell newid cyn y wers ac aed â'r disgybl i'r ysbyty.

"Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod ac yn cynnal ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd.

"Mae ein meddyliau gyda'r disgybl a'i deulu."

Mae swyddogion y cyngor wedi bod yn gweithio gyda'r Gweithgor Iechyd ddydd Mercher i ganfod achos y ddamwain.

Roedd y wal a goncrid yn wal 1.8 metr o uchder ac yn gwahanu'r ardal sych a gwlyb yn yr ystafell newid.

Dywedodd y cyngor mai 12 oed ydi'r ganolfan abod ymchwiliad strwythurol llawn wedi ei gynnal tair blynedd yn ôl.

"Wedi'r digwyddiad rydym wedi cynnal profion yn y ganolfan ac ar dair canolfan arall yn y sir a does dim problem wedi ei nodi," meddai llefarydd

"Ein prif flaenoriaeth yw cyflwr Daniel, ei deulu a'r disgyblion ifanc oedd yn dyst i'r hyn ddigwyddodd.

"Mae'r ganolfan hamdden yn parhau ar agor."