Cefnogi'r milwyr a'r teuluoedd wrth lansio Apêl y Pabi 2012

Jade Jones
Dywed Jade Jones ei bod yn falch o gefnogi'r apêl

Mae angen i'r Lleng Brydeinig drwy Brydain godi £42 miliwn yn ystod yr wythnosau nesaf ar gyfer eu gwaith gyda milwyr, cyn-filwyr a'u teuluoedd.

Yn Y Fflint brynhawn Mercher fe fydd y bencampwraig Olympaidd Jade Jones yn ymuno â mam milwr a laddwyd yn Afghanistan yn lansio Apêl y Pabi ar gyfer Cymru.

Gyda Jade yn Ysgol Uwchradd Y Fflint mae Catherine Griffiths, mam Jamie Shadrake a laddwyd fis Awst yn ardal Nahr-e Saraj yn nhalaith Helmand.

Dywedodd y fam fod y lleng yn "cynnig cymorth yn syth ac am oes i deuluoedd aelodau'r Lluoedd Arfog.

"Mae'r apêl yn ei gwneud hi'n bosib i'r lleng helpu teuluoedd gyda £1.7 miliwn yr wythnos o gymorth lles ac mae £90 miliwn y flwyddyn yn helpu 165,000 o geisiadau am help," meddai.

Yn falch

Dywedodd Jade, cyn-ddisgybl yn yr ysgol, ei bod hi'n falch i fod yn rhan o'r lansiad.

"Rydym yn gobeithio mai dyma'r apêl fwya' erioed," meddai.

"Gobeithio y bydd pobl y gogledd yn dangos eu cefnogaeth."

Credir bod tua 9 miliwn o bobl yn gymwys i dderbyn cymorth a bod rhyw 250,000 yng Nghymru.

Y rhai sy'n gymwys yw pob dyn neu ddynes sydd wedi gwasanaethu am saith niwrnod neu fwy a'u teuluoedd.