Cyfrifiad: Gwynedd ar y brig o ran tai haf

Tai haf
Roedd 18 o'r 20 awdurdod lleol lle oedd cyfran uchel o dai haf mewn ardaloedd gwledig neu arfordirol.

Yng Ngwynedd mae'r gyfran uchaf o bobl yng Nghymru a Lloegr sydd wedi nodi ail gyfeiriad ar gyfer gwyliau, yn ôl ystadegau Cyfrifiad 2011.

Ac mae Ynys Môn, Conwy, Ceredigion a Sir Benfro ymysg y 15 cyngor sir uchaf â phobl sydd ddim yn byw yno ond yn berchen ar dai haf.

Mae gwybodaeth Y Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyhoeddwyd ddydd Llun yn ymwneud â phobl sydd yn berchen ar ail gartref mewn awdurdod lleol sy'n wahanol i'r un maen nhw'n byw ynddo'n arferol.

Ardaloedd gwledig

Roedd 18 o'r 20 awdurdod lleol lle oedd cyfran uchel o dai haf mewn ardaloedd gwledig neu arfordirol.

Yn ôl yr ystadegau, mae dros £1.5 miliwn yng Nghymru a Lloegr (2.8% o'r boblogaeth) yn berchen ar ail gyfeiriad sy'n cael ei ddefnyddio am fwy na 30 diwrnod bob blwyddyn.

Cafodd yr ail gyfeiriadau eu rhannu'n dair adran, gwaith, gwyliau ac arall.

Dywedodd Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd a llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar dai a'r Gymraeg, nad oedd yr ystadegau yn rhai annisgwyl.

"Rydym yn ymwybodol iawn bod 'na ganran uchel o ail gartrefi yn y sir a rhai ardaloedd o fewn Gwynedd efo dros 50%," meddai.

"Mae'n fater yr ydan ni wedi ei daclo yn y blynyddoedd diwethaf....ond yn amlwg bydd angen gwneud mwy.

"Ochr arall y geiniog ydi ein bod yn cydnabod bod ymwelwyr yn dod i'r sir ac yn aros yma yn gyfraniad i'r economi leol ar adegau o'r flwyddyn."

Dywedodd bod modd gwneud rhai pethau o ran grymoedd sy'n bodoli, megis codi dros 100 y 100 ar dreth cyngor ail gartrefi.

"Creu ffynhonnell incwm i godi mwy o dai fforddiadwy a fydd gobeithio yn rhoi rhywfaint o gosb i bobl sy'n teimlo bod ail gartre yn rhywbeth y maen nhw'n haeddu ei gael, ni am godi mwy i gael yr hawl ac ail-fuddsoddi mewn tai fforddiadwy i ateb galw lleol."

Hwn yw'r tro cyntaf i ystadegau o'r fath gael eu cyhoeddi fel rhan o'r Cyfrifiad.

Cafodd Cyfrifiad 2011 ei gynnal ddydd Sul, Mawrth 27, 2011.

Hwn oedd y tro cyntaf i bobl allu cofnodi eu bod yn Gymry, hyd yn oed os oedden nhw'n byw mewn rhannau eraill o Brydain.

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod poblogaeth Cymru wedi cynyddu o 5% (153,000) dros y 10 mlynedd diwethaf.

Y boblogaeth ar ddiwrnod y Cyfrifiad, oedd 3.06 miliwn. 2.91 miliwn oedd y ffigwr yn 2001.

Ail gyfeiriadau ar gyfer gwyliau
Awdurdod Lleol Trigolion arferol 2011 Trigolion yn byw rhywle arall gydag ail gyfeiriad yn yr awdurdod lleol hwn Pobl ag ail gyfeiriad fesul mil o drigolion arferol
1. Gwynedd 121,874 7,784 64
2. Gogledd Norfolk 101,499 4,842 48
3. Ardal y Llynnoedd (De) 103,658 4,684 45
4. De Hampshire 83,140 3,738 45
5. Ynysoedd Sili 2,203 99 45
6. Ynys Môn 69,751 2,893 41
7. Purbeck 44,973 1,809 40
8. Eden 52,564 1,865 35
9. Sir Benfro 122,439 4,310 35
10. Scarborough 108,793 3,697 34
11. Gorllewin Gwlad yr Haf 34,675 1,142 33
12. Dwyrain Lindsey 136,401 4,472 33
13. Ceredigion 75,922 2,269 30
14. Conwy 115,228 3,198 28
15. Gorllewin Dorset 99,264 2,713 27
16. Arfordir Suffolk 124,298 3,029 24
17. Chichester 113,794 2,754 24
18. King's Lynn a Gorllewin Norfolk 147,451 3,539 24
19. Ynys Wyth 138,265 3,114 23
20. Craven 55,409 1,204 22