Caerlŷr 39-22 Gweilch

  • 21 Hydref 2012
Verenki Goneva congratulates Manu Tuilagi on his first try
Manu Tuilagi yn dathlu wedi ei gais cyntaf ddydd Sul

Caerlŷr 39-22 Gweilch

Daeth y Gweilch â phenwythnos ofnadwy rhanbarthau rygbi Cymru i ben wrth golli yn Welford Road brynhawn Sul.

Sgoriodd Manu Tuliagi a Ryan Jones geisiau yn yr hanner cyntaf er mwyn sicrhau - ynghyd â goliau cosb Toby Flood a Dan Biggar - bod y timau'n gyfartal 10-10 ar yr egwyl.

Roedd Flood a Ben Youngs yn ser yn yr ail hanner, ond er hynny roedd hi'n dal yn agos gyda deng munud yn weddill gyda goliau Flood a Biggar yn gwahanu'r ddau dîm.

Ond yna yn y deng munud olaf fe aeth y Gweilch ar chwâl yn llwyr.

Sgoriodd y tîm cartref dri chais - Flood, Young a Tuilagi gyda'i ail - i gyd yn croesi'r llinell i sicrhau buddugoliaeth swmpus i Gaerlŷr.

Roedd hynny nid yn unig yn sicrhau pwynt bonws i Gaerlŷr, ond yn golygu bod y Gweilch yn gadael yn gwbl waglaw, ac fe allai hynny fod yn dyngedfennol ar ddiwedd y grwpiau.

Gyda'r Scarlets a'r Gleision wedi colli eu dwy gêm gyntaf yng Nghwpan Heineken, mae'n edrych yn bosibl ar hyn o bryd na fydd gan Gymru gynrychiolwyr yn rownd yr wyth olaf y tymor hwn.