Nottingham Forest 3-1 Caerdydd

  • 20 Hydref 2012
Logo Clwb Pêl-Droed Caerdydd

Sgoriodd Nottingham Forest ddwy gôl o fewn munud wrth i Gaerdydd golli a disgyn o frig y bencampwriaeth.

Er i Gaerdydd gael mwyafrif y meddiant, y tîm cartref oedd yn edrych yn debycach o sgorio gydol y gêm.

Daeth y gyntaf o gic rydd wych o 20 llathen gan Andy Reid wedi 25 munud.

Ond os oedd hynny'n siomi i Malky Mackay y rheolwr, roedd gwaeth i ddod.

O fewn munud i'r gêm yn ail ddechrau fe drodd yr un yn ddwy. Peniad Daniel Ayala oedd yn gyfrifol am yr ail, gan roi tipyn o dasg i'r rheolwr ysbrydoli ei dîm ar yr egwyl.

Ond beth bynnag ddywedodd Mackay, fe gafodd fawr o effaith gan i Gaerdydd ildio'r drydedd yn fuan wedyn. Bill Sharp oedd yn chwim i rwydo wedi 75 eiliad o'r ail hanner, ac roedd y gêm mwy neu lai ar ben.

Fe ddangosodd Caerdydd rhywfaint o ysbryd, ac fe gafodd Heidar Helguson un yn ôl wedi 74 munud.

Daeth gobaith wedyn pan welodd Adlene Guedioura y cerdynm coch wedi dwy drosedd cerdyn melyn.

Roedd hynny wedi 83 munud, ond llwyddodd Forest i gadw'r fantais, ac wrth i Gaerlŷr sicrhau gêm gyfartal yn Birmingham mae Caerdydd yn disgyn i'r ail safle yn y tabl ar wahaniaeth goliau.

TABL Y BENCAMPWRIAETH
GEMAU GWAHANIAETH GOLIAU PWYNTIAU
1. Caerlŷr 11 8 22
2. CAERDYDD 11 6 22
3. Huddersfield 11 5 20
4. Crystal Palace 11 1 20
5. Wolves 11 4 19
6. Hull City 11 3 19