Abertawe 2-1 Wigan

Abertawe

Abertawe 2-1 Wigan

Mae yna ddadlau wedi bod yn amgylchynnu'r Elyrch dros y bythefnos diwethaf yng nghanol honiadau nad yw'r chwaraewyr yn hapus gyda dulliau hyfforddi'r rheolwr Michael Laudrup.

Ond doedd fawr o arwydd o hynny wrth i Abertawe reoli'r chwarae ar y Liberty yn erbyn Wigan brynhawn Sadwrn.

Yr Elyrch gafodd mwyafrif y meddiant, mwy o ergydion at y gôl a'r gorau o'r chwarae am y rhan fwyaf o'r gêm.

Er hynny roedd rhaid aros am 65 munud cyn y gôl gyntaf.

Roedd sibrydion y byddai Jonathan De Guzman yn cael ei adael allan o'r 11 oedd yn dechrau'r gêm, ond roedd y penderfyniad i'w gynnwys yn gywir.

De Guzman greodd y gôl gyntaf cyn i Pablo Hernandez sgorio am y tro cyntaf i Abertawe gydag ergyd rymus i gornel y rhwyd.

O fewn dau funud, roedd y fantais wedi ymestyn a De Guzman oedd y crewr unwaith eto. Daeth ei groesiad o hyd i Michu yn y cwrt chwech ac fe beniodd y chwaraewr canol cae ei chweched gôl y tymor hwn.

Ond yna daeth Wigan, o dan ofal cyn reolwr Abertawe Roberto Martinez, yn ôl iddi.

Emerson Boyce sgoriodd gôl ddigon tebyg i un Michu ddau funud yn ddiweddarach o groesiad James McCarthy - tair mewn pedwar munud ac Abertawe yn dal ar y blaen.

Daliodd Abertawe eu gafael ar y fantais i sicrhau triphwynt i ail-gynnau'r tymor.

TABL UWCHGYNGHRAIR
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Chelsea 8 13 22
2. Man United 8 10 18
3. Man City 8 7 18
4. Everton 7 6 14
5. Spurs 8 3 14
10. ABERTAWE 8 2 11